Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dydd Mawrth 18 Mehefin a dydd Mercher 19 Mehefin 2013
Dydd Mawrth 25 Mehefin a dydd Mercher 26 Mehefin 2013
Dydd Mawrth 2 Gorffennaf a dydd Mercher 3 Gorffennaf 2013
***********************************************************************
Dydd Mawrth 18 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Strategaeth Forol a Physgodfeydd Cymru (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Darparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Yr Adolygiad Annibynnol o Argaeledd Cyllid ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru: Adroddiad Cyntaf (30 munud)
· Dadl Cyfnod 3 ar Fil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44 (90 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir y cynnig:
Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.47
Dydd Mercher 19 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Meysydd Carafanau Gwyliau (Cymru) (Darren Millar) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 25 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Anghenion Dysgu Ychwanegol (30 munud)
· Dadl: Y Papur Gwyn ynghylch Tai – Y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu’r Papur Gwyn (60 munud)
· Dadl: Gofal Sylfaenol a’r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal (60 munud)
Dydd Mercher 26 Mehefin 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar Adroddiad 03-13 y Pwyllgor Safonau i’r Cynulliad ar Lobïo a Grwpiau Trawsbleidiol (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer - Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) (30 munud)
Dydd Mawrth 2 Gorffennaf 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno’r Bil Addysg (Cymru) (60 munud)
· Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Diwygiadau i Ddeddf Addysg 1996) (Cymru) 2013 (15 munud)
· Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2013 (15 munud)
· Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44 (90 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir y cynnig:
Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo’r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44.
Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig yng Nghymru (60 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Horizon 2020: Cyfnod 2 (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer – Nick Ramsay (Mynwy) (30 munud)